Caernarfon

By: Elis Morgan - Exeter University intern for Places of Poetry

Added: 05 August 2019

Ychydig o wythnosau yn ôl, ymwelon ni a Chastell Caernarfon, ble cawsom y cyfle anhygoel i ddathlu hanes a threftadaeth Cymru trwy barddoniaeth. Yn y castell, rhoddwyd ystafell i ni i greu stondin ar gyfer ein prosiect ac anogwyd pobl i ddod i mewn i geisio ysgrifennu darn o farddoniaeth ei hunain. Roedd yr ystafell yn dywyll a heb lot o le, gan gynnig awyrgylch hynod o addas ar gyfer ystyried ei hanes. Ei’n bardd preswyl am y digwyddiad oedd Gillian Clarke, y bardd a dramodydd enwog o Gymru. Trwy hei gyrfa, mae Gillian wedi ennill nifer o wobrwyau am ei gwaith ac roedd en bleser i gael hi fel rhan o ei'n priosect.

Gafodd dau weithdy ei gynnal yn y Castell. Gafodd yr un cyntaf ei gynnal ar gyfer oedolion o bob gallu a oedd efo diddordeb mewn ysgrifennu barddoniaeth ei hunain. Anogwyd Gillian i’r rhai a chymerodd rhan ystyried beth oeddent yn gweld, clywed, teimlo, ond pwysicaf byth, beth oeddent yn dychmygu, ac i’w nodi i lawr. Ar ôl hyn, cafodd y disgrifiadau ei ddefnyddio i gychwyn ysgrifennu llinellau ac yna cerddi llawn. Roedd y canlyniadau yn drawiadol iawn a gafodd llawer o gerddi da ei hysgrifennu.

Roedd yr ail weithdy ychydig yn wahanol gan gafodd ei gynnal ar gyfer ysgol eilaidd lleol. Cafodd dosbarth o blant ei wahodd i'r castell ar gyfer gweithdy arbenigol ar sut i ysgrifennu barddoniaeth. Gafodd y plant ei annog i feddwl amdan ei awyrgylch yn ei chyd-destun hanesyddol gan ystyried sut fod hyn yn bwysig heddiw. Roedd y gwaith a chynhyrchwyd o safon uchel iawn, ac roedd ên amlwg fod y plant wedi mwynhau'r profiad. 

I orffen ein hymweliad i Gaernarfon, gafodd digwyddiad ei drefnu gan y prosiect yn y Galeri, ble gafodd darlleniad ei arwain gan Gillian Clark a Paul Farley. Darllenodd y ddau rhai o’i darnau o farddoniaeth gorau yn ogystal â rhannu ei hanesion personol. Roedd hyn yn ffordd dda iawn o ddod ac ein hamser yng Nghaernarfon i ben.

Back to Blog posts

Search Poems

close window